“I did the first of a series of walks with people that will happen over the next two years today. It was quite gorgeous, light and yet in depth. If you‘re interested in joining a walk, read on.”
– Jo Fong
Sicrhau amser i gysylltu
Math arall o gyfoeth
Helo.
Fy enw i yw Jo a hoffwn eich gwahodd i gerdded, am dro, i grwydro – cam yn y cyfeiriad ‘i ble awn ni nawr?’
Ymhle mae’n dechrau?
O dan y geiriau hyn
– CREU GWIR FEL GWYDR O FFWRNAIS AWEN
– IN THESE STONES HORIZONS SING
Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd.
Pryd?
11am ddydd Mercher 23 Chwefror, 2022
Ionawr
, 2021
Am ba hyd?
Croeso i bwy?
Mae’r daith hon yn gwahodd unrhywun sydd â diddordeb.
A oes yna gost?
Na
Pam ydw i’n cerdded?
Rwy’n cerdded pan rwy’n cwrdd â rhywun newydd
pan rwy’n mynd yn sownd
i glirio fy mhen a dychwelyd i’r gwir
i weld natur
i gael ystyr o le rwy’n byw
i gael teimlad o’r llun mawr
i glywed mwy ac efallai dysgu rhywbeth
i gymryd llwybr hir ac ystyried yr hyn sydd heb ei ddatrys
i drafod mater cymdeithasol
i lenwi gofod a dychmygu ei fod yn eiddo i bawb
i feithrin ffydd
ar gyfer pleser a lles
i ymarfer corff
i fod gyda phobl
i ysgogi cyfeillgarwch newydd
i fyfyrio dros lanast dryslyd, rhwystrol a chynddeiriogol
i gael epiffani neu dri
Fy enw i yw Jo Fong. Rwy’n artist, ac rwyf newydd gael fy mhenodi’n Gydymaith Creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
A HEFYD er mwyn i chi wybod, does dim angen hawlio lle; rhowch hi yn eich dyddiadur a dewch i ymuno. Os oes gennych chi unrhyw anghenion mynediad penodol, peidiwch ag oedi rhag cysylltu.
Ynglŷn â COVID. Fe fyddwn ni tu allan drwy’r adeg ac rydym ni eisiau i bawb deimlo’n gyfforddus a bod yn ddiogel. Plîs cadwch hyn mewn ystyriaeth.
“Walking makes you say stuff. New people and new encounters generate new ideas, new stuff being put into the atmosphere. Be a part of this creative locomotion by just coming to walk. Change takes time.” -Audience response.
“A physical and verbal negotiation of presence somewhere between the psycho-physical and the facilitated.” Audience description.